Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n gallu cael ei defnyddio i adnabod unigolyn byw. Mae hyn yn cynnwys enwau, manylion cyfeiriad, cyfeiriadau IP, neu ddata Adnoddau Dynol fel manylion cyflogres. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio data personol yn eu gweithrediadau dyddiol. Rydym hefyd wedi edrych ar sgamiau posibl mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Rwyf wedi bod yn derbyn e-byst, mae’n debyg gan y llywodraeth, yn gofyn am fy manylion personol. A yw hyn yn sgam?
Mae sgam e-bost yn gofyn am fanylion personol yn aml yn esgus i fod o adrannau’r llywodraeth, neu sefydliadau swyddogol fel y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, HelpwrArian a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), yn gofyn am eich manylion personol.
Yn gyffredinol nid yw’r llywodraeth yn anfon unrhyw e-byst yn y ffordd hon. Os byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi glicio dolen neu’n holi am fanylion personol, dilëwch ef neu ei anwybyddu. Mae bron yn sicr o fod yn sgam.
Os yw’n adran o’r llywodraeth, neu sefydliad swyddogol fel y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, HelpwrArian, CTheF neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), chwiliwch ar-lein am fanylion cyswllt neu edrychwch ar unrhyw ohebiaeth swyddogol rydych wedi’i dderbyn.
Byddwch yn ofalus wrth gymryd neu dderbyn galwadau, e-byst a negeseuon testun annisgwyl.
Cofiwch na fydd eich banc byth yn gofyn i chi ddatgelu eich PIN llawn na chyfrinair na’n gofyn i chi symud arian i gyfrif arall.
Os ydych yn poeni, gwiriwch â’ch darparwr gan ddefnyddio rhif rydych yn gwybod sy’n ddilys. Er enghraifft, defnyddiwch y rhif sydd ar gefn eich cerdyn neu o’ch datganiad blynyddol neu ddogfennau polisi.
Rydych yn gallu gwirio os yw cwmni gwasanaethau ariannol wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) trwy wirio’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol ar wefan FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Canllaw i ddechreuwyr i sgamiau
Mathau o sgamiau
Beth am ddiogelu data personol data ar ôl Brexit?
Ni fu unrhyw newidiadau ar unwaith i reolau diogelu data’r DU ers ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Bydd cyfraith diogelu data’r DU yn parhau i fod yn gyflin â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR).
Gallwch nawr ddarllen sut caiff data personol ei rhannu gan yr EEA i'r DU ar wefan y llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r DU yn aros yn ymrwymedig i safonau diogelu data uchel.
Darganfyddwch fwy ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
A yw cyfarwyddyd GDPR Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn berthnasol o hyd?
Bydd cyfraith diogelu data’r DU yn parhau yn gyflin â Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data’r UE (GDPR). Mae hyn yn golygu na fydd newidiadau arwyddocaol i drefn diogelu data’r DU oherwydd bod llywodraeth y DU yn dod â GDPR yr UE a Chyfarwyddebau Gorfodi Cyfraith yn uniongyrchol i gyfraith ddomestig y DU.
Fodd bynnag, gallai fod newidiadau i’r ffordd mae data yn cael eu rhannu o’r UE i’r DU. Cedwir ein GDPR yng nghyfraith y DU, ond gall y DU barhau i adolygu’r fframwaith. Fel y nodwyd gan yr ICO, mae ‘GDPR y DU’ yn cyd-fynd â fersiwn ddiwygiedig o’r Ddeddf Diogelu Data (DPA 2018).
Mae busnesau a sefydliadau yn gallu adolygu a allent gael eu heffeithio a’r diweddariadau diweddaraf gan y llywodraeth trwy wirio’r cyfarwyddyd diweddaraf sydd ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd GwybodaethYn agor mewn ffenestr newydd